Zum Inhalt springen

Welsh: 15.03.2019 Performance im Anschluss an „Ray and Liz“ im Pontio, Bangor

15.03.2019 Performance im Anschluss an „Ray and Liz“ im Pontio, Bangor

read in Englisch

read in German

Bywgraffiad

Ganed Undine Zimmer ym 1979 yn Berlin.  Mae ganddi MA mewn astudiaethau Llychlynnaidd, llenyddiaeth Almaenig a gwyddor cyfryngau gan Freie Universität a Humboldt Universität yn Berlin. Ar ôl cael mân swyddi gyda phapurau newydd ac mewn bwytai, gweithiodd ei ffordd ymlaen i gael interniaeth yn y papur newydd wythnosol enwog Die Zeit. Yn ystod ei harhosiad yn Die Zeit cafodd gyfle i gyhoeddi ei stori gyntaf Meine Hartz-IV Familie am ei bywyd teuluol a’i phrofiadau fel aelod o’r hyn a elwir yn Hartz-IV-Family (gan gyfeirio at Peter Hartz sydd, ers 2005, yn gyfystyr a gwleidyddiaeth y wladwriaeth les yn yr Almaen). Enwebwyd yr erthygl am yr Henry Nannen Preis 2012 yn y dosbarth Ysgrif, a chafodd fersiwn estynedig ohoni ei chyhoeddi yn llyfr cyntaf Undine Zimmer yn 2013 Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r llyfr gan orsafoedd radio a sioeau teledu yn yr Almaen.  Ers mis Mai 2013 mae Undine Zimmer yn gweithio fel swyddog lleoliadau mewn swyddfa gyflogaeth ffederal (Canolfan Gwaith) yn Ne’r Almaen. Mae ei rhieni yn dal i fod ar fudd-daliadau. 

Crynodeb o Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie.

Undine Zimmer yw unig ferch mam sengl. Gwaetha’r modd, nid aeth ei mam yn ôl i fyd gwaith am lawer o resymau ac arhosodd yn ddi-waith, gan ddibynnu ar nawdd cymdeithasol.  Gydag ychydig iawn o arian a bron ddim rhwydwaith cymdeithasol a theulu o gwmpas, roedd ei mam yn ceisio gwneud y gorau ohoni. Yn ei llyfr cyntaf mae Undine Zimmer yn edrych ar fywyd o safbwynt y ferch a’i mam, a oedd yn aml dan bwysau sylweddol.  Mae’r llyfr yn cymharu ei bywyd â bywydau teuluoedd o’i chwmpas a ystyrid fel rhai ’normal‘.  Mae’n fwy o ddisgrifio a deall pam fod ei mam wedi aros yn ddi-waith, neu pam na lwyddodd ei thad (a oedd wedi ysgaru oddi wrth ei mam) i wireddu ei freuddwydion, yn hytrach na beirniadu ei rhieni neu ei chymdeithas. Sut brofiad ydi byw mewn cymdeithas lle rydych yn teimlo bod gennych lai nag eraill a’ch bod yn llusgo ar eu holau ym mhopeth bron?   A sut mae’n teimlo i gael eich galw’n dlawd mewn cymdeithas gyfoethog? Mae Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie eisiau gofyn y cwestiynau hyn yn ogystal â rhoi disgrifiad onest a chywir o brofiad plentyn a’i rieni o fod ar fudd-daliadau y dyddiau hyn – pan nad oes ganddynt unrhyw obaith o lwyddo drwy eu nerth eu hunain.  

Extract translatet during a  translationworkshop at Sheffield Universitiy (Summer 2014):

Ydw i wedi llwyddo?

Yn ein cymdeithas, tlodi yw pan nad oes gan rywun gyfleoedd, neu pan nad yw rhywun yn gweld unrhyw gyfleoedd i weithredu i newid sefyllfa eu bywyd.  Mae fy mam yn dweud ‚tlodi ydi pan na allaf gyflawni fy mhotensial – mewn ystyr faterol ac ysbrydol‘ Ac fe fyddwn i’n ychwanegu at hynny –  pan na allaf ddod o hyd i fy lle mewn cymdeithas. Oherwydd dyma’r nod y mae’n rhaid i bawb anelu ato.  Dyma ydi gwir gyfoeth a moethusrwydd ein cymdeithas: sef medru gwireddu eich llawn botensial.  Oherwydd hyn, mae gennym gatalog gyda thoreth o alwedigaethau na allai neb fyth eu cofio.  Ac fe ddylai’r rhai na all gyflawni eu potensial o leiaf wneud eu hunain yn ddefnyddiol a pheidio â hawlio pethau gan eraill – dyna ran y rhai na allant fforddio i gyflawni eu potensial.  Neu’r rhai sy’n ofni llenwi’r ffurflenni angenrheidiol a chael eu gorfodi i egluro a dilysu eu hunain dro ar ôl tro.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf ers cyhoeddi fy llyfr, fe ofynnwyd i mi mewn cyfweliadau: ‚Frau Zimmer, ydych chi’n enghraifft y gall ‚integreiddio‘ fod yn llwyddiannus a bod ein cymdeithas yn cynnig popeth y mae ar yr unigolyn ei angen?‘

Ydw i wedi llwyddo?

Ydw i wedi ‚llwyddo i ddianc‘ o rywle?  Neu a oes rhywbeth yn hanfodol anghywir gyda’r syniad hwn?

Ers peth amser bellach mae’r geiriau ‚integreiddio‘ a ‚cymhathu‘ wedi cael eu defnyddio’n unig yn y ddadl yn ymwneud ag ymfudo, cefndir ethnig a dinasyddiaeth ddeuol.  Ers tro maent wedi dod yn rhan o faes y farchnad swyddi.  Mae integreiddio’n golygu bod yn gyflogadwy ac anelu at gyflawni pethau.  Mae’r rhai sy’n bodloni gofynion ein cymdeithas, sydd wedi ei hanelu gymaint at gyrhaeddiad, yn gallu cyflawni, llwyddo ac felly ymlaen.

Mae ymlwybro eich ffordd eich hun ymlaen a chithau ddim mor slic a hynny yn ffyrdd y byd yn golygu y bydd eraill yn eich ystyried yn rhywun sydd eisiau tynnu’n groes, sydd ddim yn cydymffurfio â disgwyliadau ac sydd eisoes yn hofran ar ymylon cymdeithas.   Mae normau’n bethau sy’n crynhoi dan yr wyneb ac sy’n penderfynu pwy sy’n ’normal‘, sut mae’n rhaid i chi weithredu a’r hyn y mae’n rhaid ei gyflawni cyn y gellwch ddod ymlaen mewn bywyd – yn arbennig yn y cyfnod hollbwysig pan mae llwybr eich bywyd yn cael ei bennu.  Daw normau i rym pan fo’n fater o ymwneud ag asesu ‚myfyrwyr da‘ yn erbyn ‚myfyrwyr gwael‘. Neu pan fo oedolion, hyfforddwyr, cyflogwyr, cynghorwyr gyrfa, athrawon, sefydliadau a phobl mewn swyddi pwerus yn pwyso a mesur pwy sy’n fedrus ym mhethau’r byd, ac sy’n gallu integreiddio a chael eu hysgogi.  A beth mae rhywun nad yw’n ffitio i mewn i’r normau hyn yn ei wneud? Mae newid cyfeiriad ar ôl i’ch llwybr gael ei bennu yn galw am fwy o egni, penderfyniad, stamina a llawer iawn o amynedd i ddelio â sgyrsiau a ffurflenni.

Ac mae’n hen bryd i ni dderbyn hynny.

The Frog

…not translated yet

Gall bod yn blentyn i rieni sy’n ddi-waith am gyfnod hir olygu llawer o bethau.

Gall bod yn blentyn i rieni sy’n ddi-waith am gyfnod hir olygu llawer o bethau. Profiadau pendant a gweladwy yw’r rhai rydych yn eu colli – sut brofiad ydi gwyliau teuluol, pa mor dda y gall cinio Sul flasu a pha mor ddefnyddiol y gall mamau bedydd hael fod mewn rhai sefyllfaoedd. Yn anad dim, rydych yn colli rhywun sydd ar eich ochr chi, yr un unigolyn hwnnw sy’n plannu ynoch yr hyder sylfaenol y mae eraill wedi cael eu meithrin ynddo ers eu genedigaeth.  Oherwydd mae ar gyfleoedd angen dewrder ac mae angen arian ar gyfer y rhan fwyaf hefyd.  Ond, does gennych chi ddim o hynny.  Gwersi ffidil? Angen ffidil. Ymweliad ag amgueddfa dechnoleg? Rhaid talu i fynd i mewn. Ehangu’ch gorwelion trwy deithio? Amhosib ei fforddio.

Pa swyddogaethau y caniateir i rieni di-waith eu chwarae’n gyhoeddus?  Yn bennaf, rôl y colledwyr na allant eu hamddiffyn eu hunain oherwydd nad oes ganddynt unrhyw bŵer neu ddylanwad.  Yn bennaf oll rhaid iddynt eu hamddiffyn eu hunain yn erbyn y rhagfarn eu bod ar fai am eu sefyllfa eu hunain, eu bod wedi colli rhywbeth neu, o’r hyn lleiaf, eu bod wedi gwneud penderfyniad anghywir ar adeg dyngedfennol.  Pa syndod, felly, eu bod yn mynd yn flin neu’n anobeithio pan nad oes unrhyw newid yn ymddangos yn bosib.  Oherwydd ni waeth faint o ragfarnau y llwyddant i ddod drostynt, mae’r nesaf eisoes yn llechu yn y cysgodion yn aros i gymryd ei le. Dwi’n gwrthod ailadrodd hynny yma eto. Ond dim ond un peth yw ymdopi ag ychydig o arian. Pan fyddwch yn profi bywyd fel deisyfwr o oedran cynnar mae gennych atgofion eraill am eich rhieni, pan ellwch deimlo eu diymadferthedd a’u tristwch, a’r adegau pan maent yn ceisio cuddio hynny oddi wrth eu plant.  Mae’r teimlad sylfaenol o ansefydlogrwydd bob amser yn cuddio yn y cefndir ac weithiau, er nad yw hynny’n arferol, mae’n magu wyneb.

 

Heroes

…not translated yet

 

Mae gan geir yr arfer o wneud i mi fynd yn sentimental.

Tübingen, 2012. Dwi’n disgwyl am lifft i Berlin. Mae Mercedes du yn stopio o flaen yr orsaf. „Oeddet ti’n dechrau meddwl nad oeddem am ddod?“ gofynnodd y dyn, un gwydn, deinamig yn gwisgo siaced fleece werdd a chydag ambell resen o arian yn ei wallt.  „Pe na byddwn i wedi dod, byddwn wedi anfon rhywun arall‘. Cyn i mi fedru ateb, mae wedi rhoi fy rycsac yn y bŵt.  Dwi’n eistedd ar flanced las golau sydd wedi’i rhoi ar draws y sedd gefn, gyda’r fasged bicnic wrth fy ochr.  ‚Mae na ddau fflasg thermos yma, un ohonyn nhw i ti.‘  Trodd ei wraig ataf i.  Gwallt brown o hyd canolig, i lawr at ei gên, a cholur ysgafn o amgylch ei llygaid.  Un o’r mathau hynny o bobl sy’n paratoi coffi a rholiau bara iddi hi ei hun, ei gŵr a dieithryn llwyr am saith o’r gloch y bore. 

Maen nhw ar y ffordd i weld eu merch sy’n gwneud interniaeth 700 cilomedr i ffwrdd. Byddant yn gwneud y daith yn ôl a blaen mewn dim ond dau ddiwrnod. Dyna dipyn o ymdrech, meddyliais wrthyf fy hun ac, fel pe bai wedi darllen fy meddwl, dywedodd yn llawen ‚dydi hynny’n ddim ond hanner y pellter i Istanbul‘.  Un o’r fan honno ydi ei gŵr.  Maen nhw’n deithwyr trefnus iawn. Wrth gymryd y pwff olaf o’i sigarét, soniodd y gyrrwr wrthyf fel yr arferai rofio eira fel myfyriwr yn Tübingen.  Mae gan y ddau ohonynt eu pethau bach eu hunain: mae o’n hyfforddi’r tîm pêl-droed ac mae hi’n trefnu teithiau i’w disgyblion gyda brwdfrydedd amlwg.  Maen nhw’n gyrru car mawr. Maen nhw ar wyliau. 

Maen nhw’n mynd â dau focs i’w merch sy’n cynnwys llyfrau wedi’u hysgrifennu mewn Twrceg a rhai mân bethau eraill.  Dau ddiwrnod o wyliau. Ni all y naill na’r llall fforddio cymryd mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith na hynny. Felly mae hi taenu’r menyn ar y rholiau, ac mae’r car yn cychwyn. 

Pe bai eu merch yn aros i fyny yma, byddai angen car arni wedyn.  „Maen nhw wedi cynnig contract hyfforddi iddi“, meddai ei mam wrthyf yn llawn balchder.  „Fe allai hi brynu car rhad iddi’i hun,“ meddai. Neu byddai ei rhieni’n cael un iddi, rwy’n eithaf siŵr o hynny. Rwy’n edrych ar y ddau ohonynt gyda diddordeb. Maen nhw’n union fel y byddwn yn dychmygu y dylai rhieni iawn fod.  Fedra i ddim maddau i’r demtasiwn:  Dwi’n eu cymharu nhw efo fy rhieni.  

Fedrai fy rhieni i fyth ddod â bocsys o bethau i mi, na rhoi cyngor i mi ar brynu car.  Mi fyddai fy rhieni angen help eu hunain efo pethau o’r fath.   Ni fyddent yn dod i ngweld i chwaith, ac yn sicr ni fyddent yn teithio am gymaint o gilometrau yno ac yn ôl dim ond am benwythnos.  Dwi’n edrych drwy’r ffenestr ar y tirwedd.  Prin y gallaf weld unrhyw beth oherwydd y niwl trwchus.  Fedra i ddim cysgu; mae’r radio’n llawer rhy uchel.  Rydym yn gwrando ar yr orsaf SWR yn chwarae caneuon pop a hits eraill.  Mae’r athro yn ymuno i mewn yn y cytgan.  Mae rhywbeth cynhesol yn hynny i mi.  Fyddai fy mam fyth yn cyd-ganu mor llawen â hyn wrth wrando ar ganeuon.  Dwi’n cofio am y tro cyntaf eu bod o leiaf ddeng mlynedd yn hŷn na’r cwpl hwn. Mae gan geir yr arfer o wneud i mi fynd yn sentimental. 

Mae ceir bob amser wedi mynd â mi i lefydd na fyddwn fyth wedi eu cyrraedd fel arall, neu na fyddai fy mam fyth wedi gyrru efo mi iddyn nhw.  Mae’n amheuthun medru teithio i’r lle rydych eisiau mynd iddo yn syth o’ch drws ffrynt heb orfod dal y trên dan-ddaear neu orfod dewis eich esgidiau’n ofalus wrth feddwl am y strydoedd coblog a’r pellter o orsaf y rheilffordd i’r lle rydych eisiau ei gyrraedd. 

Pan yn blentyn, doeddwn i byth eisiau cyrraedd a gorfod mynd allan o’r car. Fe wnaeth ffrindiau fynd â ni adref yn eu car ychydig o weithiau.  Dwi’n cofio’r goleuadau. Roeddwn bob amser eisiau syrthio i gysgu, fel na allent fynd â mi allan o’r car unwaith roeddem wedi cyrraedd yno.  Ond fedrwn i ddim cysgu, oherwydd nid oeddwn eisiau colli eiliad o’r daith. Ac felly byddwn yn cymryd arnaf fy mod i’n cysgu.  Roedd rhaid i mi fynd allan yn y diwedd bob amser.  

Pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed a thramor, fe wnes i grio’n ddirgel mewn car.  Mae car yn jest ddigon mawr i deulu cyfan. Mae car yn creu cymuned glos. Tra oeddwn yn eistedd yn y car gyda theulu, roeddwn yn sydyn yn rhan o rywbeth a oedd yn eithaf estron i mi. Rhywbeth roeddwn wedi’i golli. Dyna pam y gwnaeth hynny fi’n drist.  Roeddwn yn teimlo’n hapus ac allan o’i le yr un pryd. Drwy gydol fy mywyd rwyf wedi eistedd gyda llawer o deuluoedd yn eu ceir. Tra oeddwn i’n eistedd yno, roeddwn i’n perthyn i rywbeth. Mae pobl sydd â cheir yn diferu o awdurdod. Maen nhw’n eich codi ac yn mynd â chi adref; maen nhw’n gwneud pethau’n bosib. Ac maen nhw’n arogli’n wahanol. Maen nhw’n arogli o seddau moethus, ffreswyr aer a stereos ceir.  Mae ganddyn nhw allweddi du trwchus. Maen nhw’n annibynnol. Does dim angen iddyn nhw ofyn am ddim gan unrhyw un a gallant fynd â’u mam – gyda’i chefn drwg – am dro yn eu car.  Gallant fynd â darn o’u ‚cartref‘ am dro gyda nhw, neu gario pethau mawr a thrwm a gwneud llawer o siopa.  Mae ceir yn gyfystyr â hyder.  Mae Mercedes du, fel yr un rwy’n eistedd ynddo ar hyn o bryd, yn hunanhyder o’r iawn ryw.  Nid yw fy rhieni yn sicr mor hyderus â’r rhieni hyn. Ond yn wahanol i rai rhieni eraill, sydd â mwy i’w gynnig yn yr ystyr faterol a chyffredinol, roedd fy rhieni i yno bob amser i mi. 

 

Normalrwydd – be ydi hynny?

Dywedodd fy mam:  „Byddwn gymaint wedi hoffi cael bywyd gonest.  A bod wedi gwneud y peth iawn bob amser.  Eto mae trasiedïau mawr ein hanes llenyddol yn ymwneud â phobl sydd wedi methu â chyflawni hynny. Roeddent hwy hefyd yn aml yn dlawd:   Romeo und Julia auf dem Dorfe gan Keller, Raskolnikov o Crime and Punishment Dostoyevsky a llawer mwy. Mae llawer dimensiwn i dlodi, a chredaf fod pedwar ohonynt yn arbennig o berthnasol: yr ariannol, y cymdeithasol a’r addysgol.  Un arall yw tras neu statws teuluol, heb anghofio statws lle rydych yn byw.   Pe bawn i’n disgrifio fy hun yna mae’r categorïau canlynol yn ystadegol berthnasol i’m cefndir:   Rwy’n blentyn o deulu wedi ysgaru, a fagwyd gan fam sengl ddi-waith, a oedd yn amlwg yn brin o arian. Roedd hynny wedyn yn golygu nad oedd gen i lawer o gysylltiadau cymdeithasol a neb i edrych arno fel esiampl i’m paratoi ar gyfer y gystadleuaeth a’r pethau y dylid ac na ddylid eu gwneud sy’n allweddol i lwyddo yn y gymdeithas sydd ohoni.  Y rhain yw’r ffactorau risg bondigrybwyll.  Hefyd, yn nodweddiadol ond nid mor gyffredin yn y cyd-destun hwn, roedd gan fy mam gyraeddiadau addysgol canolig ac roedd wedi cwblhau hyfforddiant fel nyrs.  Ond roedd honno’n swydd na allai ei gwneud ar ôl ychydig flynyddoedd am resymau personol a hefyd am resymau ymarferol, oherwydd bryd hynny nid oedd unrhyw waith rhan-amser ar gael i famau sengl yn y proffesiwn hwn.  Mae hwn yn ddilema sy’n dal heb ei ddatrys yn y farchnad swyddi.

Nid oedd yr holl wybodaeth a diddordebau pellach a oedd gan fy mam – megis opera, llenyddiaeth fyd-eang soffistigedig a gweithiau meddylwyr athronyddol, moesol a chrefyddol yr oedd wedi’u darllen ac a ddylai fod wedi ei chodi i lefel uwch o addysg – yn cael eu cydnabod. Felly, ni ellid eu mesur ac oherwydd hynny doeddent byth yn berthnasol wrth chwilio am swyddi.  Felly, mae gennym ni senario nodweddiadol a fydd yn arwain bron yn anochel at ddiweithdra hir-dymor os na wneir rhywbeth i wneud iawn am y pedwar dimensiwn.  Yn y llyfr rwy’n ysgrifennu fel a ganlyn:

„Roedd y dimensiwn o dlodi a gafodd yr effaith fwyaf arnom yn ein hachos arbennig ni yn un cymdeithasol.   Nid oeddem yn gallu mynd i lawer o ddigwyddiadau diwylliannol ac ni fyddem fyth yn mynd i fwytai na chael paned o goffi na mynd i lefydd trin gwallt, a phan fyddem allan byddem yn osgoi toiledau lle roedd yn rhaid talu am eu defnyddio. Doedd gennym ni ddim cyfeillion neu amgylchedd cymdeithasol a fyddai wedi rhoi cysylltiadau defnyddiol i ni.  Weithiau, roeddwn yn bwyta cracers gyda mwstard oherwydd dyna’r peth agosaf i fyrgyr y gallwn ei gael, ond doeddwn i byth yn mynd i’r gwely yn llwglyd Roeddem yn byw mewn fflat taclus ac roedd gennym ddŵr poeth a thrydan bob amser. Ond fyddem ni byth yn medru fforddio un o’r poteli dŵr 2 ewro 30 yn yr orsaf drenau.   A dim ond ar achlysur arbennig y byddem yn prynu cacen neu cappuccino ac roedd rhaid iddo flasu’n wirioneddol dda i fod yn werth 3 ewro.  Roedd arnom angen rheswm da bob amser i ganiatáu rhywbeth allan o’r cyffredin i ni’n hunain.  Roedd ein hanrhegion yn cael eu lapio mewn napcynnau a’u dal wrth ei gilydd gyda thâp pacio ac roedd hynny’n iawn i ni.  Tra bo eraill yn rhoi posteri i fyny ar y waliau mewn fframiau, roedd ein rhai ni’n cael eu sticio yn y papur wal gyda phinnau ac fe wnaeth fy mam grosio ein llenni cyntaf mewn pwyth rhydd.  Ac os oedd rhywun yn arbennig o annwyl yn ein golwg yn galw heibio, doeddem ni ddim yn tynnu ein llestri gorau allan, ond bwyta efo nhw allan o’r sosban!  Roeddem yn byw mewn swigen, yn ein byd ein hunain, gyda’n rheolau ein hunain, gyda llen o wydr yn ein gwahanu oddi wrth fywyd bob dydd a ’normalrwydd‘ y rhan fwyaf o deuluoedd Almaenig, efo swper a phicls Spreewald.

Normalrwydd – be ydi hynny?  Mae’n dechrau bob amser gyda chymhariaeth rhyngof i fy hun ac eraill.