{"id":985,"date":"2019-03-14T00:07:50","date_gmt":"2019-03-13T22:07:50","guid":{"rendered":"http:\/\/undinezimmer.de\/?page_id=985"},"modified":"2019-03-20T07:51:23","modified_gmt":"2019-03-20T05:51:23","slug":"bangor-welsh","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/bangor\/bangor-welsh\/","title":{"rendered":"Welsh: 15.03.2019  Performance im Anschluss an &#8222;Ray and Liz&#8220; im Pontio, Bangor"},"content":{"rendered":"<h2>15.03.2019 Performance im Anschluss an &#8222;<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=u9kSbxwIiUg\">Ray and Liz<\/a>&#8220; im Pontio, Bangor<\/h2>\n<p><a href=\"http:\/\/undinezimmer.de\/bangor-eng\/\">read in Englisch<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/undinezimmer.de\/bangor\/\">read in German<\/a><\/p>\n<h2><strong>Bywgraffiad<\/strong><\/h2>\n<p>Ganed Undine Zimmer ym 1979 yn Berlin.\u00a0 Mae ganddi MA mewn astudiaethau Llychlynnaidd, llenyddiaeth Almaenig a gwyddor cyfryngau gan Freie Universit\u00e4t a Humboldt Universit\u00e4t yn Berlin. Ar \u00f4l cael m\u00e2n swyddi gyda phapurau newydd ac mewn bwytai, gweithiodd ei ffordd ymlaen i gael interniaeth yn y papur newydd wythnosol enwog <i>Die Zeit<\/i>. Yn ystod ei harhosiad yn <i>Die Zeit<\/i> cafodd gyfle i gyhoeddi ei stori gyntaf <i>Meine Hartz-IV Familie<\/i> am ei bywyd teuluol a&#8217;i phrofiadau fel aelod o&#8217;r hyn a elwir yn <i>Hartz-IV-Family<\/i> (gan gyfeirio at Peter Hartz sydd, ers 2005, yn gyfystyr a gwleidyddiaeth y wladwriaeth les yn yr Almaen). Enwebwyd yr erthygl am yr Henry Nannen Preis 2012 yn y dosbarth Ysgrif, a chafodd fersiwn estynedig ohoni ei chyhoeddi yn llyfr cyntaf Undine Zimmer yn 2013 <i>Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie<\/i>. Cafwyd ymateb cadarnhaol i&#8217;r llyfr gan orsafoedd radio a sioeau teledu yn yr Almaen.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ers mis Mai 2013 mae Undine Zimmer yn gweithio fel swyddog lleoliadau mewn swyddfa gyflogaeth ffederal (Canolfan Gwaith) yn Ne&#8217;r Almaen. Mae ei rhieni yn dal i fod ar fudd-daliadau.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h2><b>Crynodeb o <i>Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie.<\/i><\/b><\/h2>\n<p>Undine Zimmer yw unig ferch mam sengl. Gwaetha&#8217;r modd, nid aeth ei mam yn \u00f4l i fyd gwaith am lawer o resymau ac arhosodd yn ddi-waith, gan ddibynnu ar nawdd cymdeithasol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Gydag ychydig iawn o arian a bron ddim rhwydwaith cymdeithasol a theulu o gwmpas, roedd ei mam yn ceisio gwneud y gorau ohoni. Yn ei llyfr cyntaf mae Undine Zimmer yn edrych ar fywyd o safbwynt y ferch a&#8217;i mam, a oedd yn aml dan bwysau sylweddol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;r llyfr yn cymharu ei bywyd \u00e2 bywydau teuluoedd o&#8217;i chwmpas a ystyrid fel rhai &#8217;normal&#8216;.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;n fwy o ddisgrifio a deall pam fod ei mam wedi aros yn ddi-waith, neu pam na lwyddodd ei thad (a oedd wedi ysgaru oddi wrth ei mam) i wireddu ei freuddwydion, yn hytrach na beirniadu ei rhieni neu ei chymdeithas. Sut brofiad ydi byw mewn cymdeithas lle rydych yn teimlo bod gennych lai nag eraill a&#8217;ch bod yn llusgo ar eu holau ym mhopeth bron? <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>A sut mae&#8217;n teimlo i gael eich galw&#8217;n dlawd mewn cymdeithas gyfoethog? Mae <i>Nicht von schlechten Eltern. Meine Hartz-IV Familie <\/i>eisiau gofyn y cwestiynau hyn yn ogystal \u00e2 rhoi disgrifiad onest a chywir o brofiad plentyn a&#8217;i rieni o fod ar fudd-daliadau y dyddiau hyn &#8211; pan nad oes ganddynt unrhyw obaith o lwyddo drwy eu nerth eu hunain. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h2>Extract translatet during a\u00a0\u00a0translationworkshop at Sheffield Universitiy (Summer 2014):<\/h2>\n<h1><strong>Ydw i wedi llwyddo?<\/strong><\/h1>\n<p>Yn ein cymdeithas, tlodi yw pan nad oes gan rywun gyfleoedd, neu pan nad yw rhywun yn gweld unrhyw gyfleoedd i weithredu i newid sefyllfa eu bywyd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae fy mam yn dweud &#8218;tlodi ydi pan na allaf gyflawni fy mhotensial &#8211; mewn ystyr faterol ac ysbrydol&#8216; Ac fe fyddwn i&#8217;n ychwanegu at hynny &#8211;<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>pan na allaf ddod o hyd i fy lle mewn cymdeithas. Oherwydd dyma&#8217;r nod y mae&#8217;n rhaid i bawb anelu ato.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dyma ydi gwir gyfoeth a moethusrwydd ein cymdeithas: sef medru gwireddu eich llawn botensial.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Oherwydd hyn, mae gennym gatalog gyda thoreth o alwedigaethau na allai neb fyth eu cofio.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ac fe ddylai&#8217;r rhai na all gyflawni eu potensial o leiaf wneud eu hunain yn ddefnyddiol a pheidio \u00e2 hawlio pethau gan eraill &#8211; dyna ran y rhai na allant fforddio i gyflawni eu potensial.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Neu&#8217;r rhai sy&#8217;n ofni llenwi&#8217;r ffurflenni angenrheidiol a chael eu gorfodi i egluro a dilysu eu hunain dro ar \u00f4l tro.<\/p>\n<p>Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf ers cyhoeddi fy llyfr, fe ofynnwyd i mi mewn cyfweliadau: &#8218;Frau Zimmer, ydych chi&#8217;n enghraifft y gall &#8218;integreiddio&#8216; fod yn llwyddiannus a bod ein cymdeithas yn cynnig popeth y mae ar yr unigolyn ei angen?&#8216;<\/p>\n<p>Ydw i wedi llwyddo?<\/p>\n<p>Ydw i wedi &#8218;llwyddo i ddianc&#8216; o rywle?<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Neu a oes rhywbeth yn hanfodol anghywir gyda&#8217;r syniad hwn?<\/p>\n<p>Ers peth amser bellach mae&#8217;r geiriau &#8218;integreiddio&#8216; a &#8218;cymhathu&#8216; wedi cael eu defnyddio&#8217;n unig yn y ddadl yn ymwneud ag ymfudo, cefndir ethnig a dinasyddiaeth ddeuol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ers tro maent wedi dod yn rhan o faes y farchnad swyddi.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae integreiddio&#8217;n golygu bod yn gyflogadwy ac anelu at gyflawni pethau.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;r rhai sy&#8217;n bodloni gofynion ein cymdeithas, sydd wedi ei hanelu gymaint at gyrhaeddiad, yn gallu cyflawni, llwyddo ac felly ymlaen.<\/p>\n<p>Mae ymlwybro eich ffordd eich hun ymlaen a chithau ddim mor slic a hynny yn ffyrdd y byd yn golygu y bydd eraill yn eich ystyried yn rhywun sydd eisiau tynnu&#8217;n groes, sydd ddim yn cydymffurfio \u00e2 disgwyliadau ac sydd eisoes yn hofran ar ymylon cymdeithas. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae normau&#8217;n bethau sy&#8217;n crynhoi dan yr wyneb ac sy&#8217;n penderfynu pwy sy&#8217;n &#8217;normal&#8216;, sut mae&#8217;n rhaid i chi weithredu a&#8217;r hyn y mae&#8217;n rhaid ei gyflawni cyn y gellwch ddod ymlaen mewn bywyd &#8211; yn arbennig yn y cyfnod hollbwysig pan mae llwybr eich bywyd yn cael ei bennu.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Daw normau i rym pan fo&#8217;n fater o ymwneud ag asesu &#8218;myfyrwyr da&#8216; yn erbyn &#8218;myfyrwyr gwael&#8216;. Neu pan fo oedolion, hyfforddwyr, cyflogwyr, cynghorwyr gyrfa, athrawon, sefydliadau a phobl mewn swyddi pwerus yn pwyso a mesur pwy sy&#8217;n fedrus ym mhethau&#8217;r byd, ac sy&#8217;n gallu integreiddio a chael eu hysgogi.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>A beth mae rhywun nad yw&#8217;n ffitio i mewn i&#8217;r normau hyn yn ei wneud? Mae newid cyfeiriad ar \u00f4l i&#8217;ch llwybr gael ei bennu yn galw am fwy o egni, penderfyniad, stamina a llawer iawn o amynedd i ddelio \u00e2 sgyrsiau a ffurflenni.<\/p>\n<p>Ac mae&#8217;n hen bryd i ni dderbyn hynny.<\/p>\n<h1><strong>The Frog<\/strong><\/h1>\n<p>&#8230;not translated yet<\/p>\n<h1><strong>Gall bod yn blentyn i rieni sy&#8217;n ddi-waith am gyfnod hir olygu llawer o bethau.<\/strong><\/h1>\n<p>Gall bod yn blentyn i rieni sy&#8217;n ddi-waith am gyfnod hir olygu llawer o bethau. Profiadau pendant a gweladwy yw&#8217;r rhai rydych yn eu colli &#8211; sut brofiad ydi gwyliau teuluol, pa mor dda y gall cinio Sul flasu a pha mor ddefnyddiol y gall mamau bedydd hael fod mewn rhai sefyllfaoedd. Yn anad dim, rydych yn colli rhywun sydd ar eich ochr chi, yr un unigolyn hwnnw sy&#8217;n plannu ynoch yr hyder sylfaenol y mae eraill wedi cael eu meithrin ynddo ers eu genedigaeth.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Oherwydd mae ar gyfleoedd angen dewrder ac mae angen arian ar gyfer y rhan fwyaf hefyd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ond, does gennych chi ddim o hynny.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Gwersi ffidil? Angen ffidil. Ymweliad ag amgueddfa dechnoleg? Rhaid talu i fynd i mewn. Ehangu&#8217;ch gorwelion trwy deithio? Amhosib ei fforddio.<\/p>\n<p>Pa swyddogaethau y caniateir i rieni di-waith eu chwarae&#8217;n gyhoeddus?<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Yn bennaf, r\u00f4l y colledwyr na allant eu hamddiffyn eu hunain oherwydd nad oes ganddynt unrhyw b\u0175er neu ddylanwad.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Yn bennaf oll rhaid iddynt eu hamddiffyn eu hunain yn erbyn y rhagfarn eu bod ar fai am eu sefyllfa eu hunain, eu bod wedi colli rhywbeth neu, o&#8217;r hyn lleiaf, eu bod wedi gwneud penderfyniad anghywir ar adeg dyngedfennol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Pa syndod, felly, eu bod yn mynd yn flin neu&#8217;n anobeithio pan nad oes unrhyw newid yn ymddangos yn bosib.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Oherwydd ni waeth faint o ragfarnau y llwyddant i ddod drostynt, mae&#8217;r nesaf eisoes yn llechu yn y cysgodion yn aros i gymryd ei le. Dwi&#8217;n gwrthod ailadrodd hynny yma eto. Ond dim ond un peth yw ymdopi ag ychydig o arian. Pan fyddwch yn profi bywyd fel deisyfwr o oedran cynnar mae gennych atgofion eraill am eich rhieni, pan ellwch deimlo eu diymadferthedd a&#8217;u tristwch, a&#8217;r adegau pan maent yn ceisio cuddio hynny oddi wrth eu plant.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;r teimlad sylfaenol o ansefydlogrwydd bob amser yn cuddio yn y cefndir ac weithiau, er nad yw hynny&#8217;n arferol, mae&#8217;n magu wyneb.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h1><strong>Heroes<\/strong><\/h1>\n<p>&#8230;not translated yet<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h1><strong>Mae gan geir yr arfer o wneud i mi fynd yn sentimental.<\/strong><\/h1>\n<p>T\u00fcbingen, 2012. Dwi&#8217;n disgwyl am lifft i Berlin. Mae Mercedes du yn stopio o flaen yr orsaf. &#8222;Oeddet ti&#8217;n dechrau meddwl nad oeddem am ddod?&#8220; gofynnodd y dyn, un gwydn, deinamig yn gwisgo siaced <i>fleece<\/i> werdd a chydag ambell resen o arian yn ei wallt.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>&#8222;Pe na byddwn i wedi dod, byddwn wedi anfon rhywun arall&#8216;. Cyn i mi fedru ateb, mae wedi rhoi fy rycsac yn y b\u0175t.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dwi&#8217;n eistedd ar flanced las golau sydd wedi&#8217;i rhoi ar draws y sedd gefn, gyda&#8217;r fasged bicnic wrth fy ochr.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>&#8218;Mae na ddau fflasg thermos yma, un ohonyn nhw i ti.&#8216;<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Trodd ei wraig ataf i.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Gwallt brown o hyd canolig, i lawr at ei g\u00ean, a cholur ysgafn o amgylch ei llygaid.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Un o&#8217;r mathau hynny o bobl sy&#8217;n paratoi coffi a rholiau bara iddi hi ei hun, ei g\u0175r a dieithryn llwyr am saith o&#8217;r gloch y bore.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Maen nhw ar y ffordd i weld eu merch sy&#8217;n gwneud interniaeth 700 cilomedr i ffwrdd. Byddant yn gwneud y daith yn \u00f4l a blaen mewn dim ond dau ddiwrnod. Dyna dipyn o ymdrech, meddyliais wrthyf fy hun ac, fel pe bai wedi darllen fy meddwl, dywedodd yn llawen &#8218;dydi hynny&#8217;n ddim ond hanner y pellter i Istanbul&#8216;.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Un o&#8217;r fan honno ydi ei g\u0175r.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Maen nhw&#8217;n deithwyr trefnus iawn. Wrth gymryd y pwff olaf o&#8217;i sigar\u00e9t, soniodd y gyrrwr wrthyf fel yr arferai rofio eira fel myfyriwr yn T\u00fcbingen.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae gan y ddau ohonynt eu pethau bach eu hunain: mae o&#8217;n hyfforddi&#8217;r t\u00eem p\u00eal-droed ac mae hi&#8217;n trefnu teithiau i&#8217;w disgyblion gyda brwdfrydedd amlwg.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Maen nhw&#8217;n gyrru car mawr. Maen nhw ar wyliau.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Maen nhw&#8217;n mynd \u00e2 dau focs i&#8217;w merch sy&#8217;n cynnwys llyfrau wedi&#8217;u hysgrifennu mewn Twrceg a rhai m\u00e2n bethau eraill.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dau ddiwrnod o wyliau. Ni all y naill na&#8217;r llall fforddio cymryd mwy o amser i ffwrdd o&#8217;r gwaith na hynny. Felly mae hi taenu&#8217;r menyn ar y rholiau, ac mae&#8217;r car yn cychwyn.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Pe bai eu merch yn aros i fyny yma, byddai angen car arni wedyn.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>&#8222;Maen nhw wedi cynnig contract hyfforddi iddi&#8220;, meddai ei mam wrthyf yn llawn balchder.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>&#8222;Fe allai hi brynu car rhad iddi&#8217;i hun,&#8220; meddai. Neu byddai ei rhieni&#8217;n cael un iddi, rwy&#8217;n eithaf si\u0175r o hynny. Rwy&#8217;n edrych ar y ddau ohonynt gyda diddordeb. Maen nhw&#8217;n union fel y byddwn yn dychmygu y dylai rhieni iawn fod.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Fedra i ddim maddau i&#8217;r demtasiwn:<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dwi&#8217;n eu cymharu nhw efo fy rhieni. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Fedrai fy rhieni i fyth ddod \u00e2 bocsys o bethau i mi, na rhoi cyngor i mi ar brynu car.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mi fyddai fy rhieni angen help eu hunain efo pethau o&#8217;r fath. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ni fyddent yn dod i ngweld i chwaith, ac yn sicr ni fyddent yn teithio am gymaint o gilometrau yno ac yn \u00f4l dim ond am benwythnos.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dwi&#8217;n edrych drwy&#8217;r ffenestr ar y tirwedd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Prin y gallaf weld unrhyw beth oherwydd y niwl trwchus.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Fedra i ddim cysgu; mae&#8217;r radio&#8217;n llawer rhy uchel.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Rydym yn gwrando ar yr orsaf SWR yn chwarae caneuon pop a hits eraill.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;r athro yn ymuno i mewn yn y cytgan.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae rhywbeth cynhesol yn hynny i mi.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Fyddai fy mam fyth yn cyd-ganu mor llawen \u00e2 hyn wrth wrando ar ganeuon.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dwi&#8217;n cofio am y tro cyntaf eu bod o leiaf ddeng mlynedd yn h\u0177n na&#8217;r cwpl hwn. Mae gan geir yr arfer o wneud i mi fynd yn sentimental.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Mae ceir bob amser wedi mynd \u00e2 mi i lefydd na fyddwn fyth wedi eu cyrraedd fel arall, neu na fyddai fy mam fyth wedi gyrru efo mi iddyn nhw.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;n amheuthun medru teithio i&#8217;r lle rydych eisiau mynd iddo yn syth o&#8217;ch drws ffrynt heb orfod dal y tr\u00ean dan-ddaear neu orfod dewis eich esgidiau&#8217;n ofalus wrth feddwl am y strydoedd coblog a&#8217;r pellter o orsaf y rheilffordd i&#8217;r lle rydych eisiau ei gyrraedd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Pan yn blentyn, doeddwn i byth eisiau cyrraedd a gorfod mynd allan o&#8217;r car. Fe wnaeth ffrindiau fynd \u00e2 ni adref yn eu car ychydig o weithiau.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Dwi&#8217;n cofio&#8217;r goleuadau. Roeddwn bob amser eisiau syrthio i gysgu, fel na allent fynd \u00e2 mi allan o&#8217;r car unwaith roeddem wedi cyrraedd yno.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ond fedrwn i ddim cysgu, oherwydd nid oeddwn eisiau colli eiliad o&#8217;r daith. Ac felly byddwn yn cymryd arnaf fy mod i&#8217;n cysgu.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Roedd rhaid i mi fynd allan yn y diwedd bob amser. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed a thramor, fe wnes i grio&#8217;n ddirgel mewn car.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae car yn jest ddigon mawr i deulu cyfan. Mae car yn creu cymuned glos. Tra oeddwn yn eistedd yn y car gyda theulu, roeddwn yn sydyn yn rhan o rywbeth a oedd yn eithaf estron i mi. Rhywbeth roeddwn wedi&#8217;i golli. Dyna pam y gwnaeth hynny fi&#8217;n drist.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Roeddwn yn teimlo&#8217;n hapus ac allan o&#8217;i le yr un pryd. Drwy gydol fy mywyd rwyf wedi eistedd gyda llawer o deuluoedd yn eu ceir. Tra oeddwn i&#8217;n eistedd yno, roeddwn i&#8217;n perthyn i rywbeth. Mae pobl sydd \u00e2 cheir yn diferu o awdurdod. Maen nhw&#8217;n eich codi ac yn mynd \u00e2 chi adref; maen nhw&#8217;n gwneud pethau&#8217;n bosib. Ac maen nhw&#8217;n arogli&#8217;n wahanol. Maen nhw&#8217;n arogli o seddau moethus, ffreswyr aer a stereos ceir.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae ganddyn nhw allweddi du trwchus. Maen nhw&#8217;n annibynnol. Does dim angen iddyn nhw ofyn am ddim gan unrhyw un a gallant fynd \u00e2&#8217;u mam &#8211; gyda&#8217;i chefn drwg &#8211; am dro yn eu car.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Gallant fynd \u00e2 darn o&#8217;u &#8218;cartref&#8216; am dro gyda nhw, neu gario pethau mawr a thrwm a gwneud llawer o siopa.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae ceir yn gyfystyr \u00e2 hyder. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span>Mae Mercedes du, fel yr un rwy&#8217;n eistedd ynddo ar hyn o bryd, yn hunanhyder o&#8217;r iawn ryw. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0Nid yw fy rhieni yn sicr mor hyderus \u00e2&#8217;r rhieni hyn. Ond yn wahanol i rai rhieni eraill, sydd \u00e2 mwy i&#8217;w gynnig yn yr ystyr faterol a chyffredinol, roedd fy rhieni i yno bob amser i mi.\u00a0<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h1><strong>Normalrwydd &#8211; be ydi hynny?<\/strong><\/h1>\n<p>Dywedodd fy mam:<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>&#8222;Byddwn gymaint wedi hoffi cael bywyd gonest.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>A bod wedi gwneud y peth iawn bob amser.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Eto mae trasied\u00efau mawr ein hanes llenyddol yn ymwneud \u00e2 phobl sydd wedi methu \u00e2 chyflawni hynny. Roeddent hwy hefyd yn aml yn dlawd: <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Romeo und Julia auf dem Dorfe gan Keller, Raskolnikov o <i>Crime and Punishment <\/i> Dostoyevsky a llawer mwy. Mae llawer dimensiwn i dlodi, a chredaf fod pedwar ohonynt yn arbennig o berthnasol: yr ariannol, y cymdeithasol a&#8217;r addysgol.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Un arall yw tras neu statws teuluol, heb anghofio statws lle rydych yn byw. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Pe bawn i&#8217;n disgrifio fy hun yna mae&#8217;r categor\u00efau canlynol yn ystadegol berthnasol i&#8217;m cefndir: <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Rwy&#8217;n blentyn o deulu wedi ysgaru, a fagwyd gan fam sengl ddi-waith, a oedd yn amlwg yn brin o arian. Roedd hynny wedyn yn golygu nad oedd gen i lawer o gysylltiadau cymdeithasol a neb i edrych arno fel esiampl i&#8217;m paratoi ar gyfer y gystadleuaeth a&#8217;r pethau y dylid ac na ddylid eu gwneud sy&#8217;n allweddol i lwyddo yn y gymdeithas sydd ohoni.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Y rhain yw&#8217;r ffactorau risg bondigrybwyll.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Hefyd, yn nodweddiadol ond nid mor gyffredin yn y cyd-destun hwn, roedd gan fy mam gyraeddiadau addysgol canolig ac roedd wedi cwblhau hyfforddiant fel nyrs.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ond roedd honno&#8217;n swydd na allai ei gwneud ar \u00f4l ychydig flynyddoedd am resymau personol a hefyd am resymau ymarferol, oherwydd bryd hynny nid oedd unrhyw waith rhan-amser ar gael i famau sengl yn y proffesiwn hwn.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae hwn yn ddilema sy&#8217;n dal heb ei ddatrys yn y farchnad swyddi.<\/p>\n<p>Nid oedd yr holl wybodaeth a diddordebau pellach a oedd gan fy mam &#8211; megis opera, llenyddiaeth fyd-eang soffistigedig a gweithiau meddylwyr athronyddol, moesol a chrefyddol yr oedd wedi&#8217;u darllen ac a ddylai fod wedi ei chodi i lefel uwch o addysg &#8211; yn cael eu cydnabod. Felly, ni ellid eu mesur ac oherwydd hynny doeddent byth yn berthnasol wrth chwilio am swyddi.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Felly, mae gennym ni senario nodweddiadol a fydd yn arwain bron yn anochel at ddiweithdra hir-dymor os na wneir rhywbeth i wneud iawn am y pedwar dimensiwn.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Yn y llyfr rwy&#8217;n ysgrifennu fel a ganlyn:<\/p>\n<p>&#8222;Roedd y dimensiwn o dlodi a gafodd yr effaith fwyaf arnom yn ein hachos arbennig ni yn un cymdeithasol. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Nid oeddem yn gallu mynd i lawer o ddigwyddiadau diwylliannol ac ni fyddem fyth yn mynd i fwytai na chael paned o goffi na mynd i lefydd trin gwallt, a phan fyddem allan byddem yn osgoi toiledau lle roedd yn rhaid talu am eu defnyddio. Doedd gennym ni ddim cyfeillion neu amgylchedd cymdeithasol a fyddai wedi rhoi cysylltiadau defnyddiol i ni.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Weithiau, roeddwn yn bwyta cracers gyda mwstard oherwydd dyna&#8217;r peth agosaf i fyrgyr y gallwn ei gael, ond doeddwn i byth yn mynd i&#8217;r gwely yn llwglyd Roeddem yn byw mewn fflat taclus ac roedd gennym dd\u0175r poeth a thrydan bob amser. Ond fyddem ni byth yn medru fforddio un o&#8217;r poteli d\u0175r 2 ewro 30 yn yr orsaf drenau. <span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>A dim ond ar achlysur arbennig y byddem yn prynu cacen neu cappuccino ac roedd rhaid iddo flasu&#8217;n wirioneddol dda i fod yn werth 3 ewro.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Roedd arnom angen rheswm da bob amser i ganiat\u00e1u rhywbeth allan o&#8217;r cyffredin i ni&#8217;n hunain.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Roedd ein hanrhegion yn cael eu lapio mewn napcynnau a&#8217;u dal wrth ei gilydd gyda th\u00e2p pacio ac roedd hynny&#8217;n iawn i ni.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Tra bo eraill yn rhoi posteri i fyny ar y waliau mewn fframiau, roedd ein rhai ni&#8217;n cael eu sticio yn y papur wal gyda phinnau ac fe wnaeth fy mam grosio ein llenni cyntaf mewn pwyth rhydd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Ac os oedd rhywun yn arbennig o annwyl yn ein golwg yn galw heibio, doeddem ni ddim yn tynnu ein llestri gorau allan, ond bwyta efo nhw allan o&#8217;r sosban!<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Roeddem yn byw mewn swigen, yn ein byd ein hunain, gyda&#8217;n rheolau ein hunain, gyda llen o wydr yn ein gwahanu oddi wrth fywyd bob dydd a &#8217;normalrwydd&#8216; y rhan fwyaf o deuluoedd Almaenig, efo swper a phicls Spreewald.<\/p>\n<p>Normalrwydd &#8211; be ydi hynny?<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0 <\/span>Mae&#8217;n dechrau bob amser gyda chymhariaeth rhyngof i fy hun ac eraill.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>15.03.2019 Performance im Anschluss an &#8222;Ray and Liz&#8220; im Pontio, Bangor read in Englisch read in German Bywgraffiad Ganed Undine Zimmer ym 1979 yn Berlin.\u00a0&#8230;<\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/bangor\/bangor-welsh\/\">Weiterlesen<span class=\"screen-reader-text\">Welsh: 15.03.2019  Performance im Anschluss an &#8222;Ray and Liz&#8220; im Pontio, Bangor<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1053,"parent":976,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-985","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","entry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/985","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=985"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/985\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1002,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/985\/revisions\/1002"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/976"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1053"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undinezimmer.de\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=985"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}